Ail-penodi Blake Morgan i fframwaith gwasanaethau cyfreithiol Comisiynydd y Gymraeg


Posted on 11th March 2025

Mae Blake Morgan wedi ei ail-apwyntio i fframwaith cyflenwyr gwasanaethau cyfreithiol Gomisiynydd y Gymraeg am gyfnod pellach o bedair mlynedd.

Click here to view the English language version/Cliciwch yma i weld y fersiwn Saesneg.

Mae’n anrhydedd i Blake Morgan fod yn aelod parhaus o banel cyfreithiol Comisiynydd y Gymraeg ers sefydlu’r swydd yn 2012 (a phaneli cyfreithiol Bwrdd yr Iaith Gymraeg cyn hynny), gan ddarparu cyngor arbenigol cyfreithiol drwy’r Gymraeg.

Mae ein gwaith gyda’r Comisiynydd wedi cynnwys cynrychioli’r Comisiynydd yn yr achos adolygiad barnwrol cyntaf i’w gyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr Uchel Lys, ac yn mwy diweddar yn cynrychioli’r Comisiynydd yn apêl Tribiwnlys y Gymraeg Cyngor Castell-nedd Port Talbot. Rydym hefyd wedi cynghori’r Comisiynydd ar ystod eang o faterion ynglŷn a’i phwerau, polisïau ac ymchwiliadau eraill.

Rydym yn falch o’n traddodiad o ddarparu cyngor cyfreithiol o ansawdd uchel trwy gyfrwng y Gymraeg, sydd yn ymestyn yn ôl dros hanner canrif i pan ddechreuodd yr Arglwydd Gwilym Prys Davies ei yrfa yn y cwmni. O dan ei arweiniad, ac yna o dan arweiniad yr Athro Emyr Lewis, rydym wedi meithrin sgiliau Cymraeg ein cyfreithwyr ochr yn ochr â’u sgiliau cyfreithiol.

Mae Blake Morgan yn un o gwmnïau cyfreithiol gwasanaeth-cyflawn mwyaf blaenllaw Cymru ac mae gennym ddealltwriaeth ddofn o faterion cyfreithiol a pholisi yn ymwneud â Chymru â’r iaith Gymraeg.  Darparwn ddyfnder gallu a phrofiad cyfreithiol i’n cleientiaid, a rydym yn falch o ddarparu ein gwasanaethau drwy’r Gymraeg. Mae gennym gyfreithwyr profiadol sy’n gallu delio â’r holl feysydd arbenigol yn y Gymraeg, gan gynnwys cyfraith gyhoeddus, cyfansoddiadol, corfforaethol, deddfwriaethol, masnachol, eiddo, caffael, rheoli cymorthdaliadau, llywodraethu, diogelu data a rhyddid gwybodaeth, adolygiad barnwrol ac ymgyfreitha. Mae ein cleientiaid yma yng Nghymru yn cynnwys Llywodraeth Cymru, y Senedd, Trafnidiaeth Cymru, S4C, Banc Datblygu Cymru, awdurdodau lleol, Byrddau ac Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd a phrifysgolion ledled Cymru.

Fe ddwedodd Tomos Lewis, Partner a Hyrwyddwr y Gymraeg Blake Morgan:

Rydym yn hynod falch ein bod wedi ein ail-apwyntio i fframwaith cyfreithiol Comisiynydd y Gymraeg unwaith eto. Mae hyn yn ymestyn ein traddodiad a threftadaeth o darparu cyngor cyfreithiol ynglŷn â’r iaith Gymraeg ac yn y Gymraeg ac yn dilyn olion traed yr Arglwydd Gwilym Prys Davies ac yr Athro Emyr Lewis.

Afraid dweud bydd wastad sialensau ieithyddol yn bodoli o fewn ein cymunedau, ond braf oedd gweld cadarnhad fod cydymffurfiaeth sefydliadau cyhoeddus â safonau’r Gymraeg yn gwella a bod sicrwydd cadarn bod nifer o sefydliadau yn darparu gwasanaethau Cymraeg o ansawdd uchel.

“Er, fel dywedir y Comisiynydd, mae dal gwaith i’w wneud yn y blynyddoedd nesaf os yw’r Comisiynydd am gyflawni’i deilliannau rheoleiddio y mae hi wedi ei osod, a’r amcanion strategol arfaethedig sydd yn y Cynllun Strategol drafft ar gyfer 2025 – 2030. Rydym yn edrych ymlaen i weithio gyda’r Comisiynydd ac i gefnogi’r strategaeth hynny.” 

Yn dilyn yr apwyntiad, mi ddwedodd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg:

Mae natur ein gwaith, yn enwedig fel rheoleiddiwr, yn golygu ei bod yn ofynnol i ni sicrhau cyngor cyfreithiol cadarn, ac yn aml, gyngor arbenigol yng nghyd-destun yr iaith Gymraeg. O ganlyniad rhaid i ni fod yn hyderus yn y cwmnïau fydd yn darparu’r gwasanaeth pwysig hwn ar ein cyfer. Mae cwmni Blake Morgan wedi profi fod ganddynt dealltwriaeth o’n hamryw feysydd gwaith ac yn llawn ymwybodol o’n nodau fel sefydliad lle mae’r Gymraeg yn flaenllaw. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio dros y blynyddoedd nesaf.

Central, devolved and local government specialists

Receive expert legal advice

Arrange a call

Enjoy That? You Might Like These:


28 March
Law firm Blake Morgan has made five new February hires in its London office, bolstering its expertise across its Commercial & Charities, and Employment teams. Read More
18 March
Blake Morgan has been appointed to all 14 lots of the Welsh Government Commercial Delivery (“WGCD”) Solicitors Services Framework, the only law firm to achieve this distinction. This achievement reinforces... Read More
12 March
Blake Morgan has advised on the first joint investment from Development Bank of Wales (DBW) and the British Business Bank. Read More