Blake Morgan in Wales grows tax practice with new partner
Leading law firm Blake Morgan has appointed Rob Thomas as a new partner to strengthen its corporate tax expertise.
This is available in both English and Welsh language versions below.
Rob joins the firm’s Cardiff office from his previous role as an associate director within a corporate tax practice. As well as being a specialist in UK domestic and international corporate tax, Rob is also a chartered tax adviser and a previous winner of a prestigious legal prize, LexisNexis, for his specialist tax knowledge.
Rob has experience working with clients ranging from private equity funds and large multi-national businesses to start-ups and individuals. Covering a variety of industries and sectors, his advice spans issues such as finance and private equity transactions, management buy-outs and equity arrangements, mergers and acquisitions, joint ventures, group structuring and reorganisations, and share scheme work. He has developed a particular expertise in tax structuring, predominantly for private equity transactions.
Eve Piffaretti, head of Blake Morgan’s Wales office, said:
With his wealth of experience in tax law, Rob is an exemplary addition to our corporate tax offering. His record across complex transactions will be a significant asset to the team, providing additional experience from across the UK and abroad. We’re very happy to welcome him to the team and expand the high-quality service we offer our clients.
BLAKE MORGAN YNG NGHYMRU YN TYFU DISGYBLAETH TRETH GYDA PHARTNER NEWYDD
Mae cwmni cyfreithiol blaenllaw Blake Morgan wedi cryfhau ei arbenigedd treth gorfforaethol drwy benodi partner newydd, Rob Thomas .
Mae Rob yn ymuno â swyddfa’r cwmni yng Nghaerdydd o’i rôl flaenorol fel cyfarwyddwr cymydaith yn y maes treth gorfforaethol. Yn ogystal â bod yn arbenigwr mewn treth gorfforaethol ddomestig a rhyngwladol y DU, mae Rob hefyd yn gynghorydd treth siartredig ac yn gyn-enillydd y wobr gyfreithiol fawreddog, LexisNexis, am ei wybodaeth treth arbenigol.
Mae gan Rob brofiad o weithio gyda ystod eang o gleientiaid yn amrywio o gronfeydd ecwiti preifat a busnesau rhyngwladol mawr i fusnesau newydd ac unigolion. Gan gwmpasu amrywiaeth o ddiwydiannau a sectorau, mae ei gyngor yn rhychwantu materion fel cyllid ac ariannu, trafodion ecwiti preifat, allbryniannau gan reolwyr, threfniadau ecwiti, uno a chaffael, mentrau ar y cyd, strwythuro ac ad-drefnu grŵp a gwaith cynlluniau cyfranddaliadau. Mae wedi datblygu arbenigedd penodol mewn strwythuro treth, yn bennaf ar gyfer trafodion ecwiti preifat.
Dywedodd Eve Piffaretti, pennaeth swyddfa Blake Morgan yng Nghymru:
Gyda’i gyfoeth o brofiad ym maes cyfraith treth, mae Rob yn ychwanegiad rhagorol at ein darpariaeth treth gorfforaethol. Bydd ei record ar draws trafodion cymhleth yn ased sylweddol i’r tîm, gan ddarparu profiad ychwanegol o bob rhan o'r DU a thramor. Rydym yn hapus iawn i’w groesawu i’r tîm ac i ehangu’r gwasanaeth o ansawdd uchel rydym yn ei gynnig i’n cleientiaid.