Blake Morgan in Wales scoops Social Value for Future Generations Award
This press release is available in both English and Welsh languages. Please scroll down for the Welsh version.
Blake Morgan in Wales is celebrating after winning a prestigious Social Value for Future Generations Award 2021. The law firm won the Private Sector Leadership category in recognition of the way it embeds social value into its business culture via processes, systems and people to ensure the needs of customers and local communities are being met.
The Social Value for Future Generations Awards celebrate innovation, leadership and best practice of social value in Wales that links with the Wellbeing and Future Generations (Wales) Act 2015. The awards were judged by an independent expert panel and presented at the 2021 National Social Value Conference: Wales – Leading the Movement on the 16 and 17 November 2021.
Blake Morgan impressed judges with how the firm addresses economic inequality, support for local businesses, community wellbeing and regenerating the environment. The firm’s corporate social responsibility initiatives include raising over £50,000 for charities, including Guide Dogs Cymru and the Alzheimer’s Society. Blake Morgan is also an active participant in the Cardiff Commitment, which brings the public and private sectors together to connect young people to the vast range of opportunities available in the world of work.
The firm was named 39th in the Inclusive Top 50 Employers 2020/21, a definitive list of organisations that evidence their commitment to inclusion and community activities across all nine protected characteristics of the Equality Act 2010. Blake Morgan is also a founding member of PRIME, a scheme established by the legal profession as a commitment to providing fair access to quality work experience. The scheme combats social inequalities by offering annual work placements for students from low-income families from local communities.
Meanwhile, its Growing Ambitions programme – now in its tenth year – gives young people nominated by local social housing associations the chance to gain work experience and learn more about the business world to help with their future job prospects.
Eve Piffaretti, Partner in Blake Morgan’s Cardiff office, said:
It is a source of great pride to win a prestigious Social Value for Future Generations Award 2021. At Blake Morgan, we aim to make a difference for our clients, people, and communities.
Corporate Social Responsibility governs the management of our firm and guides our business processes, as well as how we interact with our clients, stakeholders, suppliers and the wider community. Put simply, it is a reference point that helps us to pursue our business objectives in a socially responsible and sustainable way.
Eve added: “We are committed to ensuring all of our activities align with the Well-Being of Future Generations (Wales) Act 2015 and the Welsh Government’s Wellbeing Objectives. This includes both outcomes we can deliver ourselves and using our expertise to help our clients maximise the community benefits they can achieve. We are also dedicated to listening and responding to a wide range of social challenges in our local communities. To be recognised for our work is a fantastic acknowledgement of our team, who work hard throughout the year to give back to local communities and wider society.”
BLAKE MORGAN YNG NGHYMRU YN ENNILL GWOBR GWERTH CYMDEITHASOL AR GYFER CENEDLAETHAU’R DYFODOL
Mae Blake Morgan yng Nghymru yn dathlu ar ôl ennill gwobr o fri, sef Gwobr Gwerth Cymdeithasol ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol 2021. Fe ddoth y cwmni cyfreithiol yn fuddugol yn y categori Arweinyddiaeth yn y Sector Preifat i gydnabod y ffordd y mae’n ymgorffori gwerth cymdeithasol yn ei ddiwylliant busnes trwy brosesau, systemau a phobl i sicrhau bod anghenion cwsmeriaid a chymunedau lleol yn cael eu diwallu.
Mae’r Gwobrau Gwerth Cymdeithasol ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol yn dathlu arloesedd, arweinyddiaeth ac arferion gorau gwerth cymdeithasol yng Nghymru sy’n cysylltu â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Beirniadwyd y gwobrau gan banel o arbenigwyr annibynnol a’u cyflwyno yng Nghynhadledd Gwerth Cymdeithasol Cenedlaethol 2021: Cymru- Arwain y Symudiad ar 16 a 17 Tachwedd 2021.
Gwnaeth Blake Morgan argraff ar y beirniaid gyda’r ffordd y mae’r cwmni yn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb economaidd ac yn cefnogi busnesau lleol, llesiant cymunedol ac adfywio’r amgylchedd. Mae mentrau cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol y cwmni yn cynnwys codi dros £50,000 ar gyfer elusennau, gan gynnwys Cŵn Tywys Cymru a’r Gymdeithas Alzheimer. Mae Blake Morgan hefyd yn gyfranogwr gweithgar yn Addewid Caerdydd, sy’n dod ar sector cyhoeddus a’r sector preifat ynghyd i gysylltu pobl ifanc â’r nifer helaeth o gyfleoedd sydd ar gael ym myd gwaith.
Fe rhestrwyd y cwmni yn safle 39ain ymysg y 50 Cyflogwr Mwyaf Cynhwysol 2020/21, rhestr ddiffiniol o sefydliadau sy’n dangos tystiolaeth o’u hymrwymiad i gynhwysiant a gweithgareddau cymunedol ar draws pob un o naw nodwedd warchodedig y Ddeddf Gydraddoldeb 2010. Mae Blake Morgan hefyd yn un o sylfaenwyr PRIME, sef cynllun a sefydlwyd gan y proffesiwn cyfreithiol fel ymrwymiad i gynnig mynediad teg at brofiad gwaith o ansawdd. Nod y cynllun yw gwrthsefyll anghydraddoldebau cymdeithasol trwy gynnig lleoliadau gwaith blynyddol i fyfyrwyr o deuluoedd incwm isel sy’n dod o gymunedau lleol.
Yn y cyfamser, mae rhaglen Anelu’n Uchel y cwmni – sydd bellach yn ei ddegfed flwyddyn – yn rhoi cyfle i bobl ifanc a enwebir gan gymdeithasau tai cymdeithasol lleol i ymgymryd profiad gwaith a dysgu mwy am fyd busnes i helpu gyda’u rhagolygon am swyddi yn y dyfodol.
Dywedodd Eve Piffaretti, Partner yn swyddfa Blake Morgan yng Nghaerdydd:
“Rydym yn hynod falch ac wrth ein bodd ein bod wedi ennill Gwobr Gwerth Cymdeithasol ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol 2021 . Yn Blake Morgan, ein nod yw gwneud gwahaniaeth i’n cleientiaid, ein pobl a’n cymunedau.
“Mae Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol yn llywodraethu rheolaeth ein cwmni ac yn arwain ein prosesau busnes, yn ogystal â sut yr ydym yn rhyngweithio â’n cleientiaid, rhanddeiliaid a’r gymuned ehangach. Yn syml, mae’n bwynt cyfeirio sy’n ein helpu i ddilyn ein hamcanion busnes mewn ffordd gynaliadwy sy’n gymdeithasol gyfrifol.
“Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein holl weithgareddau’n bodloni gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac Amcanion Llesiant Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys y canlyniadau y gallwn eu cyflawni ein hunain ynghyd â defnyddio ein harbenigedd i helpu ein cleientiaid i wneud y mwyaf o’r buddion cymunedol y gallant eu cyflawni. Rydym hefyd yn ymrwymedig i wrando ac ymateb i ystod eang o heriau cymdeithasol yn ein cymunedau lleol. Mae cael ein cydnabod am ein gwaith yn gydnabyddiaeth benigamp ar gyfer ein tîm, sy’n gweithio’n galed trwy gydol y flwyddyn i roi yn ôl i gymunedau lleol a’r gymdeithas ehangach.”
Tags: EDI