Blake Morgan unveils new Welsh language policy, strengthening its commitment to bilingual services
Blake Morgan is proud to announce its new Welsh Language Policy, further strengthening its commitment to provide bilingual services and respect the linguistic preferences of its clients and employees.
This is available in both English and Welsh language versions.
We are proud of our tradition of providing high quality legal advice through the medium of Welsh, which extends back over half a century to when Lord Gwilym Prys Davies started his career in the company. Under his tutelage, and then under the tutelage of Professor Emyr Lewis, we have cultivated the Welsh language skills of our lawyers alongside their legal skills.
Additionally, we have a deep understanding of legal and policy issues relating to the Welsh language and minority languages in general. Blake Morgan are honoured to have been an ever-present fixture on the Welsh Language Commissioner’s legal panel (and the Welsh Language Board’s legal panel prior to that) providing legal advice through the Welsh language, including representing the Commissioner in the first judicial review case to be presented through the medium of Welsh in the High Court.
We have experienced lawyers who can deal with all specialist areas in the Welsh language, including public law, constitutional, corporate, legislative, commercial, property, procurement, subsidy control, governance, data protection and freedom of information, judicial review and litigation. We also have good links with a number of chambers where there are Welsh language advocates.
This policy highlights Blake Morgan’s continued dedication to its Welsh heritage and the continuous efforts to support clients and colleagues who prefer to communicate in Welsh. In addition, it acknowledges the official status of the Welsh language in Wales, placing it on equal footing with English.
Eve Piffaretti, Head of Office (Wales) at Blake Morgan, welcomed the new policy, commenting:
We are incredibly proud to introduce our Welsh Language Policy. It embodies our continued commitment to our Welsh heritage and our ambition to provide the highest level of service in both English and Welsh.
Eve Piffaretti further emphasised the policy’s benefits for clients and the firm’s dedication to bilingual services:
“We understand the importance of language in providing quality legal service. By offering bilingual services, we respect our clients’ linguistic preferences and foster a more inclusive and diverse business environment. We believe that providing services in our clients’ language of choice is good business practice.”
The policy also encourages the use of Welsh within the firm and the wider community, further promoting bilingualism. To bolster this initiative, the firm has appointed a Welsh Language Champion to monitor the policy’s implementation, promote Welsh language services, and champion its use within the firm and to clients. The current Welsh Language Champion is Tomos Lewis, Senior Associate.
Tomos Lewis said:
“Blake Morgan is dedicated to fostering a bilingual environment where clients and colleagues can freely use Welsh in their day-to-day communications should they so wish.
“The firm offers Welsh lessons to all employees regardless of location and encourages Welsh-speaking colleagues to join the team. In addition, clients can request to speak to a Welsh speaker and Welsh correspondence will be responded to in kind without delay.
“In line with this new policy, the firm plans to increase the Welsh content on our website, use more Welsh in social media and produce bilingual promotional materials and press releases where appropriate. We are also working toward achieving the Welsh Language Commissioner’s “Cynnig Cymraeg” (Welsh Offer), a recognition by the Commissioner given to organisations with a strong plan.”
Piffaretti concluded:
“This policy is a milestone in our firm’s journey. We see it as a key element in delivering exceptional service to our clients and making a difference through teamwork, integrity, and innovation.”
Tomos Lewis and Eve Piffaretti in the Blake Morgan Cardiff office.
Blake Morgan yn datgelu Polisi’r Gymraeg newydd, gan gryfhau ei ymrwymiad i wasanaethau dwyieithog
Mae Blake Morgan yn falch o gyhoeddi ei Bolisi’r Gymraeg newydd, gan gryfhau eto ei ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau dwyieithog a pharchu dewisiadau ieithyddol ei gleientiaid a’i weithwyr.
Rydym yn falch o’n traddodiad o ddarparu cyngor cyfreithiol o ansawdd uchel trwy gyfrwng y Gymraeg, sy’n ymestyn yn ôl dros hanner canrif i pan ddechreuodd yr Arglwydd Gwilym Prys Davies ei yrfa yn y cwmni. O dan ei arweiniad, ac yna o dan arweiniad yr Athro Emyr Lewis, rydym wedi meithrin sgiliau Cymraeg ein cyfreithwyr ochr yn ochr â’u sgiliau cyfreithiol.
Yn ogystal, mae gennym ddealltwriaeth ddofn o faterion cyfreithiol a pholisi sy’n ymwneud â’r Gymraeg ac ieithoedd lleiafrifol yn gyffredinol. Mae’n anrhydedd i Blake Morgan gael bod yn gefnogaeth fythol bresennol ar banel cyfreithiol Comisiynydd y Gymraeg (a phanel cyfreithiol Bwrdd yr Iaith Gymraeg cyn hynny), gan ddarparu cyngor cyfreithiol trwy’r Gymraeg, gan gynnwys cynrychioli’r Comisiynydd yn yr achos adolygiad barnwrol cyntaf i’w gyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr Uchel Lys.
Mae gennym gyfreithwyr profiadol sy’n gallu delio â’r holl feysydd arbenigol yn Gymraeg, gan gynnwys cyfraith gyhoeddus, cyfansoddiadol, corfforaethol, deddfwriaethol, masnachol, eiddo, caffael, rheoli cymorthdaliadau, llywodraethu, diogelu data a rhyddid gwybodaeth, adolygiad barnwrol ac ymgyfreitha. Mae gennym hefyd gysylltiadau da â nifer o siambrau lle mae eiriolwyr sy’n siarad Cymraeg.
Mae’r polisi hwn yn amlygu ymroddiad parhaus Blake Morgan i’w etifeddiaeth Gymreig a’r ymdrechion parhaus i gefnogi cleientiaid a chydweithwyr y mae’n well ganddynt gyfathrebu yn Gymraeg. Yn ogystal, mae’n cydnabod statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru, gan ei rhoi yn gydradd â’r Saesneg.
Croesawodd Eve Piffaretti, Pennaeth Swyddfa (Cymru) yn Blake Morgan, y polisi newydd, gan ddweud:
Rydym yn hynod falch o gyflwyno ein Polisi’r Gymraeg. Mae’n ymgorffori ein hymrwymiad parhaus i’n treftadaeth Gymreig a’n huchelgais i ddarparu’r lefel uchaf o wasanaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Rhoddodd Eve Piffaretti bwyslais unwaith eto ar fanteision y polisi i gleientiaid ac ymroddiad y cwmni i wasanaethau dwyieithog:
“Rydym yn deall pwysigrwydd iaith wrth ddarparu gwasanaeth cyfreithiol o safon. Trwy gynnig gwasanaethau dwyieithog, rydym yn parchu dewisiadau ieithyddol ein cleientiaid ac yn meithrin amgylchedd busnes mwy cynhwysol ac amrywiol. Rydym o’r farn bod darparu gwasanaethau yn newis iaith ein cleientiaid yn arfer busnes da.”
Mae’r polisi hefyd yn annog defnydd o’r Gymraeg o fewn y cwmni a’r gymuned ehangach, gan hybu dwyieithrwydd ymhellach. I gynnal y fenter hon, mae’r cwmni wedi penodi Hyrwyddwr yr Iaith Gymraeg i fonitro gweithrediad y polisi, hybu gwasanaethau Cymraeg, a hyrwyddo ei ddefnydd o fewn y cwmni ac i gleientiaid. Hyrwyddwr presennol yr Iaith Gymraeg yw Tomos Lewis, Uwch Gydymaith.
Dywedodd Tomos Lewis:
“Mae Blake Morgan yn ymroddedig i feithrin amgylchedd dwyieithog lle gall cleientiaid a chydweithwyr ddefnyddio’r Gymraeg yn rhydd yn eu cyfathrebiadau o ddydd i ddydd, petaent yn dymuno gwneud hynny.
“Mae’r cwmni’n cynnig gwersi Cymraeg i’r holl weithwyr ni waeth beth fo’u lleoliad ac yn annog cydweithwyr sy’n siarad Cymraeg i ymuno â’r tîm. Yn ogystal, gall cleientiaid ofyn am gael siarad â siaradwr Cymraeg a byddwn yn ymateb yn ddi-oed yn yr un modd i ohebiaeth Cymraeg.
“Yn unol â’r polisi newydd hwn, mae’r cwmni yn bwriadu cynyddu’r cynnwys Cymraeg ar ein gwefan, defnyddio mwy o Gymraeg ar gyfryngau cymdeithasol a chynhyrchu deunyddiau hyrwyddo a datganiadau i’r wasg dwyieithog lle bo’n briodol. Rydym hefyd yn gweithio tuag at gyflawni “Cynnig Cymraeg” Comisiynydd y Gymraeg, sef cydnabyddiaeth y mae’r Comisiynydd yn ei rhoi i sefydliadau sydd â chynllun cryf.”
Daeth Piffaretti i’r casgliad:
“Mae’r polisi hwn yn garreg filltir yn nhaith ein cwmni. Rydym yn ei weld fel elfen allweddol o ran darparu gwasanaeth eithriadol i’n cleientiaid a gwneud gwahaniaeth trwy waith tîm, uniondeb ac arloesedd.”