Blake Morgan teams and leading individuals in Wales celebrate success in latest Legal 500 directory
This press release is available in both English and Welsh languages. Please scroll down for the Welsh version.
Blake Morgan’s team in Wales is celebrating after securing an impressive 17 rankings in the 2023 edition of the Legal 500, recognising the firm’s specialist expertise and strength of client service.
The highly-regarded Legal 500 directory recognises the quality of law firms and their lawyers across the UK based on an extensive review process and feedback from clients and peers in the industry. Among its 17 rankings in Wales, 11 of Blake Morgan’s practice areas were ranked ‘Tier 1’ in recognition of their outstanding service and delivery.
The practice areas that achieved Tier 1 status include Corporate and Commercial, Clinical Negligence, Dispute Resolution, Employment, Health and Safety, Insolvency and Corporate Recovery, Intellectual Property, Pensions, Property Litigation, Public Sector and Social Housing.
The “client-focused, responsive and hardworking multidisciplinary team” helped secure a top spot for the Public Sector practice, while the Health and Safety team was recognised for its “hungry lawyers with strong interpersonal skills and razor-sharp brains”.
The firm’s “well-coordinated and knowledgeable” Commercial Property practice was also recognised for its ‘expert concise advice’ provided to a balanced mix of public and private sector stakeholders. In addition, the team was praised for its in-house project and cost management services, which provides a “very holistic service and single point of contact across all aspects of a project’s life cycle”.
Claire Rawle is praised for her “encyclopaedic knowledge of health &safety case law and sound judgement, while Eve Piffaretti’s wealth of experience and first-class legal advice for public sector clients was praised.
In addition to the Hall of Fame listings, 16 Blake Morgan lawyers in Wales achieved ‘leading individual’ status. Among those listed was Joanne Davies, who was praised for ‘combining her straight-forward perspective with technical areas of employment law’, while Louise Howells in the Social Housing team is described as “solutions focused and a natural leader”.
The rankings also recognised promising individuals, with six lawyers awarded ‘Next Generation Partner’ status and seven seen as ‘Rising Stars’.
Eve Piffaretti, Head of Office (Wales) at Blake Morgan, said:
It’s been another strong year for our firm, and it’s brilliant to see the successes of teams and lawyers recognised in this year’s Legal 500. Those achieving high-ranking positions are a testament to the firm and their hard work over the past 12 months. Their success demonstrates the first-class service they deliver for clients and how much this is appreciated.
“I’d like to thank everyone at Blake Morgan for their continued commitment to providing robust legal solutions for clients, especially in today’s world where we are operating in a continuously evolving political and economic climate.
TIMAU AC UNIGOLION BLAENLLAW BLAKE MORGAN YNG NGHYMRU YN DATHLU LLWYDDIANT YN Y CYFEIRLYFR LEGAL 500 DIWEDDARAF
Mae tîm Blake Morgan yng Nghymru yn dathlu ar ôl derbyn 17 argymhelliad yn rhifyn 2023 o’r Legal 500, cyfeirlyfr sydd yn cydnabod arbenigedd y cwmni a chryfder ei wasanaeth i gleientiaid.
Mae’r cyfeirlyfr uchel ei barch Legal 500 yn cydnabod ansawdd cwmnïau cyfreithiol a’u cyfreithwyr ledled y DU ac yn seiliedig ar broses craffu helaeth ac adborth gan gleientiaid a chyfoedion yn y diwydiant. Ymysg yr 17 argymhelliad yng Nghymru, rhestrwyd 11 o ddisgyblaethau Blake Morgan yn ‘Haen 1’ i gydnabod eu gwasanaeth a’u darpariaeth ragorol.
Enillodd y disgyblaethau a timau canlynol statws Haen 1: Corfforaethol a Masnachol, Esgeuluster Clinigol, Datrys Anghydfodau, Cyflogaeth, Iechyd a Diogelwch, Ansolfedd ac Adferiad Corfforaethol, Eiddo Deallusol, Pensiynau, Ymgyfreitha Eiddo, Gyfraith Sector Cyhoeddus a gyfraith Tai Cymdeithasol.
Fe wobrwyd y “tîm amlddisgyblaethol, ymatebol a gweithgar sy’n canolbwyntio ar y client” Sector Cyhoeddus y cwmni gyda safle blaenllaw ar gyfer disgyblaeth y Sector Cyhoeddus, tra bod y Tîm Iechyd a Diogelwch yn cael ei gydnabod am ei “gyfreithwyr brwdfrydig gyda sgiliau rhyngbersonol cryf a meddyliau craff”.
Cydnabyddwyd tîm “cydgysylltiedig a gwybodus” Eiddo Masnachol y cwmni hefyd am eu ‘cyngor cryno arbenigol’ a ddarparwyd i gymysgedd o ran-ddeiliaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Yn ogystal, canmolwyd y tîm rheoli prosiectau a chostau mewnol y cwmn sy’n darparu “gwasanaeth hynod gyfannol ac un pwynt cyswllt ar draws pob agwedd ar gylch bywyd prosiect”.
Canmolwyd Claire Rawle am ei “gwybodaeth wyddoniadurol o gyfraith achos iechyd a diogelwch a’i barn gadarn”, ynghyd ag Eve Piffaretti am ei chyfoeth o brofiad a chyngor cyfreithiol o’r radd flaenaf i gleientiaid yn y sector cyhoeddus.
Yn ogystal â’r rhestrau Oriel yr Anfarwolion, enillodd 16 o gyfreithwyr Blake Morgan yng Nghymru statws ‘unigolyn blaenllaw’. Ymhlith y rhai a restrwyd yr oedd Joanne Davies, a gafodd ei chanmol am ‘gyfuno ei phersbectif syml â meysydd technegol o gyfraith cyflogaeth’, tra bod Louise Howells yn y tîm Tai Cymdeithasol yn cael ei disgrifio fel un sy’n “canolbwyntio ar atebion ac sy’n arweinydd naturiol”.
Roedd yr argymhellion hefyd yn cydnabod unigolion addawol, gyda chwech cyfreithiwr yn ennill statws ‘Partner y Genhedlaeth Nesaf’ a saith yn cael eu hystyried yn ‘Sêr Disglair’.
Dywedodd Eve Piffaretti, Pennaeth Swyddfa (Cymru) yn Blake Morgan:
Mae wedi bod yn flwyddyn gryf arall i’n cwmni, ac mae’n wych gweld llwyddiant ein timau a'n cyfreithwyr yn cael eu cydnabod yn Legal 500 eleni. Mae'r nifer sydd wedi eu hargymell yn dyst i'r cwmni a'u gwaith caled dros y 12 mis diwethaf. Mae eu llwyddiant yn dangos y gwasanaeth o'r radd flaenaf y maent yn ei ddarparu i gleientiaid a chymaint y mae hyn yn cael ei werthfawrogi.”
“Hoffwn ddiolch i bawb yn Blake Morgan am eu hymrwymiad parhaus i ddarparu atebion cyfreithiol cadarn i gleientiaid, yn enwedig yn y byd sydd ohoni heddiw lle rydym yn gweithredu mewn hinsawdd wleidyddol ac economaidd sy’n bythol datblygu.