Proffiliau Personol, Cipolwg Proffesiynol: Dewch i gwrdd â Charlotte Whitehead, Partner Eiddo Tiriog


22nd August 2024

O dirweddau bugeiliol Caer i nenlinellau Caerdydd sy’n prysur newid, mae gyrfa Charlotte Whitehead yn y gyfraith yn adlewyrchu ei hangerdd am leoedd. Wedi’i magu mewn pentref bychan ger Caer, cafodd Charlotte ei denu i’r gyfraith bron trwy ddamwain. Ysgogwyd ei phenderfyniad i ddilyn gyrfa gyfreithiol gan gyfuniad o uchelgais ieuenctid a mewnwelediad pragmatig i wobrwyon posibl y proffesiwn – hyd yn oed os nad oedd y gwobrau hynny mor hudolus ag y gobeithiai ar y dechrau. “Roeddwn i’n meddwl y gallai’r gyfraith gael Ferrari i mi ryw ddydd. Dim fel yna y bu hi oni bai fy mod i efallai yn gwerthu fy nhŷ!” mae hi’n cellweirio.

Arweiniodd llwybr academaidd Charlotte hi i Brifysgol Caerdydd, lle daeth astudio’r gyfraith yn benderfyniad a ddiffiniodd ei gyrfa. Mae ei hetheg gwaith a’i hagwedd ymarferol wedi arwain ei chynnydd cyson i bartneriaeth yn Blake Morgan, lle mae hi’n arbenigo mewn cyfraith eiddo tiriog. Yn y maes hwn, mae hi’n ymfalchïo mewn gweld canlyniadau ei hymdrechion i ddatblygu tirweddau a nenlinellau dinasoedd.

Sgwrsiom â Charlotte i ddysgu mwy am ei gwaith a’r cyngor y byddai’n ei rannu â darpar gyfreithwyr.

Beth ddenoch chi i faes gyfraith, a pham eiddo tiriog?

Cefais fy nhynnu at y gyfraith yn gyntaf gan nad oeddwn yn hoff o feddyginiaeth! Doedd gen i ddim llwybr clir ar ôl Lefel A, dyniaethau oedd pob un o’m mhynciau, felly roedd y gyfraith yn ymddangos yn ffit dda ar gyfer fy sgiliau. Meithrinais werthfawrogiad o’r gyfraith yn ystod fy lleoliad profiad gwaith cyntaf, a gefais drwy gysylltiad teuluol. Cadarnhaodd y cysylltiad cynnar hwn i’r byd cyfreithiol mai dyma’r llwybr cywir i mi.

Ar ôl rhoi cynnig ar wahanol feysydd o’r gyfraith yn ystod fy nghontract hyfforddi, penderfynais arbenigo mewn eiddo tiriog oherwydd agweddau diriaethol y gwaith. Mae’r ffaith fy mod yn cael gweld a cherdded o amgylch amlygiad corfforol fy ymdrechion yn werth chweil!

Beth yw rhai o uchafbwyntiau eich gyrfa ac eich bywyd personol?

Roedd dod yn bartner yn Blake Morgan ym mis Ebrill 2024 yn garreg filltir broffesiynol ystyrlon i mi. Roedd yn nodi cyflawni nod proffesiynol pwysig. Uchafbwynt personol oedd cwblhau Marathon Llundain, profiad heriol ond hynod foddhaol. Ymarferais yn galed a chodais dros £5000 i’r Samariaid. Dydw i ddim yn meddwl y byddaf byth yn gwneud hynny eto, ond ‘dw i’n falch iawn fy mod wedi ei wneud.

Beth yw eich agwedd at feithrin perthynas gref â chleientiaid?

‘Dw i’n credu mewn bod yn dryloyw ac ymatebol. Pan fydd cleient yn cysylltu, ‘dw i’n sicrhau fy mod ar gael neu’n mynd yn ôl atyn nhw cyn gynted â phosibl. Mae’n ymwneud â deall eu busnes o bob ongl a chynnig atebion sy’n gyfreithiol gadarn ac yn fasnachol synhwyrol. Mae’r agwedd hon yn helpu i feithrin perthnasoedd cadarn a pharhaol yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch rhwng y naill i’r llall.

Beth sy’n cynnal eich cymhelliant yn y gwaith?

Mae pob amser her newydd, neu broblem gymhleth i’w datrys. Mae helpu cleientiaid i gyflawni eu nodau a gweld prosiectau’n dwyn ffrwyth yn werth chweil. ‘Dw i bob amser wedi bod â brwdfrydedd ac uchelgais dwfn ac wedi canolbwyntio bob amser ar gydbwyso gwaith ystyrlon a phleserus gyda bywyd cartref hapus.

Sut ydych chi’n hoffi treulio’ch oriau hamdden?

‘Dw i’n berson awyr agored ac yn mwynhau treulio amser gyda fy nheulu. ‘Dw i wrth fy modd yn sgïo, yn garddio a bod yn yr awyr agored ym myd natur. ‘Dw i’n ddigon ffodus i fod â dau geffyl, sef fy angerdd mawr. Mae fy merched, sy’n chwech ac wyth oed, wrth eu bodd yn marchogaeth, a ‘dw i’n caru’r amser rydyn ni’n ei dreulio gyda’n gilydd fel teulu yn gwneud hynny. Mae cydbwyso gyrfa sy’n gofyn llawer gyda’r gweithgareddau awyr agored hyn ac amser teuluol yn hanfodol i mi.

Sut ydych chi’n delio â‘r heriau sy’n dod gyda thrafodion eiddo masnachol cymhleth?

Yr allwedd i reoli’r heriau mewn trafodion eiddo masnachol yw rhagweld problemau posibl a mynd i’r afael â nhw yn rhagweithiol ac yn fasnachol. Mae hyn yn golygu asesiadau risg manwl a chyfathrebu clir gyda phawb dan sylw. Mae bod yn drefnus a blaenoriaethu tasgau’n effeithiol hefyd yn helpu i reoli mwy nag un prosiect ar yr un pryd. ‘Dw i bob amser yn dweud bod cwblhau prosiectau yn debyg i fysiau – maen nhw’n aml yn dod fesul tri, a gall pethau deimlo’n brysur iawn pan fydd hynny’n digwydd! Mae peidio â chynhyrfu a sicrhau cyfathrebu da gyda fy nhîm yn hollbwysig, nid yn unig ar yr adegau hyn, ond bob amser!

Beth sy’n gwneud Blake Morgan yn lle gwych i weithio?

Mae Blake Morgan wir yn gwerthfawrogi cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith, sy’n bolisi ac yn arferiad yma. Mae’r amgylchedd cefnogol hwn yn fy nghaniatáu i reoli llwyth gwaith heriol a hefyd treulio amser gyda fy nheulu ac ar fy niddordebau personol. ‘Dw i hefyd yn hoff iawn o’r ymreolaeth sydd gennym wrth weithio gyda chleientiaid mawr mewn cwmni cyfreithiol cenedlaethol. Allwn i ddim bod yn hapusach nag ydw i yma.

O ystyried eich dyrchafiad diweddar i Bartner, sut ydych chi’n gweld eich rôl yn datblygu yn Blake Morgan?

Fel partner, mae fy rôl yn datblygu o oruchwylio prosiectau cyfreithiol i fentora cyfreithwyr iau a helpu i lywio cyfeiriad strategol y cwmni. Fy nod yw hybu twf yn ein hadran eiddo tiriog trwy wella ein gwasanaethau ac ehangu ein sylfaen cleientiaid. Mae’n ymwneud ag adeiladu ar gryfderau’r cwmni a sicrhau ein bod yn parhau i addasu i’r dirwedd gyfreithiol newidiol.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i ddarpar gyfreithwyr, yn enwedig menywod sydd â diddordeb mewn cyfraith eiddo?

‘Dw i’n argymell sicrhau cymaint o brofiad gwaith â phosibl, sy’n hanfodol ar gyfer deall y maes a gwneud penderfyniadau gwybodus mewn perthynas â’ch gyrfa. Peidiwch ag oedi cyn gofyn am gyfleoedd, ni waeth pa mor bell y maen nhw’n ymddangos. I fenywod, yn enwedig, gall cymryd rhan mewn rhwydweithiau fel Menywod mewn Eiddo, lle ‘dw i’n gwasanaethu ar y pwyllgor, fod yn hynod fuddiol. Mae’r sefydliadau hyn yn cefnogi menywod yn y diwydiant trwy fentora, rhwydweithio, a datblygu’n broffesiynol, gan eu helpu i lywio a rhagori mewn sector sy’n dal i allu teimlo fel bod dynion yn goruchafu.

Am ragor o wybodaeth am Charlotte Whitehead, cliciwch yma.