Proffiliau Personol, Cipolwg Proffesiynol: Dewch i gwrdd â Joanna Rees, Partner Adeiladu a Seilwaith


22nd August 2024

Wedi’i magu yn nhref glan môr Porthcawl yn ne Cymru, breuddwydiodd Joanna Rees ifanc am yrfa ar y llwyfan. “Ond gyda Ruth Jones a Rob Brydon yn stiwdio ddrama fy ysgol gyfun, yn fuan iawn daeth yn amlwg y byddai’n well i mi feddwl am fy nghynllun B”, heria hi, “felly ymunais ag Amnest Rhyngwladol a mireinio fy sgiliau ysgrifennu trwy anfon llythyrau ymgyrchu at unbeniaid De America. Annwyl Gadfridog Pinochet, rhyddhewch y bardd neis hwnnw o’r carchar…y math yna o beth! “.

Arweiniodd y diddordeb brwd hwn ym materion y byd a chyfiawnder cymdeithasol iddi astudio’r gyfraith ym Mryste. Ar ôl gadael y Brifysgol, treuliodd ddeng mlynedd fel cyfreithiwr yn y ddinas, gan dorri ei dannedd ar achosion seilwaith cyn symud yn ôl i dde Cymru i ddechrau teulu.

“I unrhyw un a wyliodd ddrama gyfreithiol y BBC This Life yn y 90au, dyna’n union sut beth oedd bywyd fel cyfreithiwr yn Llundain. Roeddwn i’n byw mewn siâr tŷ mawr yn Islington, a’r straeon y gallwn eu hadrodd…”. Mae hi’n ofalus i beidio ag ymhelaethu. Mae’r hiwmor hunanfychanol hwn yn diffinio agwedd Joanna at y gyfraith a bywyd.

“’Dw i’n meddwl bod ysgafnder yn bwysig. Ar ddiwedd y dydd, mae pobl eisiau gweithio gyda phobl maen nhw’n eu hoffi. Mae disgwyl i chi wybod am ochr dechnegol y gyfraith, felly mae creu’r cysylltiadau dynol hynny â chleientiaid yn bwysig. ‘Dw i’n cymryd fy ngwaith yn hynod o ddifrif – ond byth fy hun.”

Heddiw, mae Joanna, sy’n siarad Cymraeg, yn un o feddyliau cyfreithiol mwyaf blaenllaw Cymru, gan arwain tîm adeiladu a seilwaith trawsddisgyblaethol Blake Morgan. Yn adnabyddus am ei masnachadwyedd a’i phragmatiaeth, mae hi wedi cynghori ar lawer o brosiectau proffil uchel o ran adfywio a datblygu, gan gynnwys Porth Teigr ym Mae Caerdydd ac adeilad tirnod trawiadol Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru sy’n edrych dros Barc Biwt y ddinas.

“Dydw i byth yn diflasu ar weld yr holl ddatblygiadau anhygoel hyn. Mae mor foddhaol gwybod fy mod wedi chwarae rhan fach iawn o ddod â nhw’n fyw,” meddai.

Mae cariad Joanna at greu lleoedd a diwylliant Cymru yn amlwg, yn enwedig yn ei gwaith gwirfoddol fel ymddiriedolwr i Ganolfan Mileniwm Cymru ac yn ei gwaith fel cyfarwyddwr anweithredol Comisiwn Dylunio Cymru, sy’n hyrwyddo safonau uchel o ddylunio a phensaernïaeth i’r sector cyhoeddus a phreifat yng Nghymru.

“Yn y bôn, fy angerdd mwyaf yw creu lleoedd. ‘Dw i wedi bod yn ffodus i gael gyrfa hir ac amrywiol, a ‘dw i’n teimlo’n freintiedig i helpu llunio amgylchedd ffisegol a diwylliannol rhywle ‘dw i’n falch o’i alw’n gartref.”

Cawsom sgwrs â Joanna i ddysgu mwy am ei gyrfa, ei chymhellion a’i chyngor dibynadwy i ddarpar gyfreithwyr.

Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am eich gwaith?

‘Dw i’n mwynhau gweithio ar brosiectau seilwaith oherwydd gwnânt wahaniaeth ym mywydau pobl. ‘Dw i hefyd wrth fy modd yn bod yn rhan o dîm prosiect llwyddiannus, gan weithio gyda’r cleient, rheolwr y prosiect, y pensaer, a’r contractwr i werthuso’r risg. Yna, mae’r cyffro o wylio’r prosiect yn datblygu o’r cam dylunio i’r datblygiad terfynol, diriaethol. I mi, mae ein gwaith yn fwy na brics a morter – mae’n ymwneud ag adeiladu lleoedd gwell i fyw a gweithio ynddyn nhw a chysylltu cymunedau. Beth allai fod yn fwy boddhaol na hynny?

Pa brosiectau ydych chi’n gweithio arnynt ar hyn o bryd?

Rydym yn cynghori ar Crossrail Caerdydd, sef datblygiad cyffrous i’r ddinas. Mae’n gydweithrediad rhwng Cyngor Caerdydd a Thrafnidiaeth Cymru a fydd yn creu cyswllt tram newydd yn rhedeg o ganol y ddinas i’r Bae. Bydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth pan fydd wedi’i gwblhau. Rydyn ni hefyd yn cynghori ar rai prosiectau seilwaith ynni diddorol, gan gynnwys solar, gwynt, treulio anaerobig – neu wastraff bwyd i ynni – a hydrogen. ‘Dw i’n mwynhau cynghori ar brosiectau sydd ar flaen y gad o ran yr agenda datgarboneiddio, maes arbenigol sy’n tyfu i ni yn Blake Morgan.

Mae’r cyfeirlyfrau cyfreithiol wedi’ch canmol am roi “cyngor clir a manwl gywir” ac wedi’ch disgrifio fel un “digynnwrf”. Beth yw eich agwedd at feithrin perthynas gref â chleientiaid?

‘Dw i’n meddwl bod rhai pobl yn adeiladu perthnasoedd da â chleientiaid yn naturiol. Daw yn aml gydag oed a phrofiad, y gallu i ddarllen sefyllfa a dweud eich barn. Wrth weithio ym maes adeiladu, ‘dw i wedi dod ar draws tipyn o gasineb at fenywod yn ystod fy ngyrfa, yn enwedig pan fûm yn gweithio yn y ddinas yn y 90au, a oedd, diolch byth, yn amseroedd gwahanol. Ond ‘dw i bob amser wedi canolbwyntio ar fy rôl, sef tawelu meddwl fy nghleientiaid – dyna sut ‘dw i’n ei weld. Weithiau mae cleientiaid yn dweud wrthyf fod problem wedi eu cadw’n effro yn y nos; ‘dw i am eu rhoi yn y sefyllfa orau bosibl. Ni allwn ni wneud popeth yn berffaith bob amser, ond gallwn ni geisio rhoi’r mater mewn persbectif a chanolbwyntio ar reoli’r risg.

Beth sy’n cynnal eich cymhelliant?

Mae darparu cyfleoedd i eraill yn cynnal fy nghymhelliant. ‘Dw i eisiau sicrhau nad yw cyfreithwyr talentog Cymru yn teimlo bod angen iddyn nhw adael Cymru i ddod o hyd i waith cyfreithiol cyffrous a boddhaus. ‘Dw i wedi cael gyrfa wych; ‘Dw i wedi bod yn ffodus i fod yn y lle iawn ar yr amser iawn, a ‘dw i wedi gweithio’n galed. Hoffwn roi’r cyfleoedd ‘dw i wedi’u cael i’r genhedlaeth nesaf. Mae meithrin talent yn rhan fawr o’n diwylliant ni yma yn Blake Morgan, a dyna pam ‘dw i wedi aros am bedair blynedd ar hugain!

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i ddarpar gyfreithwyr?

Yn gyntaf, cofleidiwch ochrau dadleuol ac annadleuol y gyfraith. Mae’n rhoi persbectif cyflawn i chi. Peidiwch byth â diystyru pa mor bwerus yw adeiladu rhwydwaith cryf. A pheidiwch byth â cholli golwg ar eich sgiliau technegol. Wrth i’ch gyrfa ddatblygu ac i chi adeiladu tîm, mae llwyddiant yn golygu dod yn rheolwr ar bobl sy’n gwybod mwy na chi. Ond mae cadw ar ben eich sgiliau technegol yn golygu y gallwch chi barhau i fod yn bartner dibynadwy. Yn olaf, mae cadw synnwyr o bersbectif – a hiwmor – bob amser wedi bod o fudd i mi. Cofleidiwch yr heriau, gweithiwch yn galed, a chwarddwch yn aml. A chofiwch, mae byd y gyfraith yn ymwneud cymaint â phobl ag y mae am gymalau a chytundebau!

Am ragor o wybodaeth am Joanna Rees, cliciwch yma.