Proffiliau Personol, Cipolwg Proffesiynol: Dewch i gwrdd â Tomos Lewis, Partner Masnachol a Sector Cyhoeddus


7th October 2024

Magwyd Tomos Lewis ym Mangor, Gogledd Cymru. Roedd ei fam, Caren Lewis, yr un mor angerddol dros y Gymraeg ag oedd hi am ei gyrfa cyfreithiol. Yn gyfreithwraig ar y stryd fawr, aeth hi ymlaen i weithio i’r Awdurdod Lleol, lle rhoddodd Caren y cipolwg cyntaf i’w mab ifanc ar fyd y gyfraith.

“Roedd Mam yn aml yn rhannu straeon am ei gwaith, a ddysgodd i mi yn gynnar sut y gallai’r gyfraith fod yn arf er daioni. Tanlinellwyd gwaith ei bywyd gan gred ddofn ym mhotensial y gyfraith i greu newid cadarnhaol,” rhanna Tomos.

Er i Caren rybuddio Tomos rhag ymuno â’r proffesiwn cyfreithiol – gan gyfeirio at ei ofynion caled – cafodd Tomos ei ysbrydoli gan ei hymroddiad i gyfiawnder ac felly  croesawodd yr her.

Ar ôl astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd ac dechrau ei yrfa cyfreithiol yn y maes cyfraith amgylcheddol, ymunodd â Blake Morgan yn 2018. Erbyn 2024, roedd wedi cyflawni carreg filltir arwyddocaol yn ei yrfa – dod yn bartner – cyflawniad chwerwfelys am iddo gyd-daro â dyddiau olaf ei fam yn byw gyda chanser y fron.

“Gwelodd fi yn cyrraedd y nod hwn, ac roedd yn foment arbennig pan ddywedais wrthi. Hi wnaeth fy ysbrydoli i ddilyn y llwybr hwn, a fyddwn i ddim lle ‘dw i heddiw hebddi. ‘Dw i mor falch fy mod wedi cael rhannu’r garreg filltir honno gyda hi.”

Heddiw, mae gan Tomos enw da am ei ddull medrus o ymdrin â materion masnachol cymhleth, caffaeliadau holl-bwysig cenedlaethol, negodiadau contract uchel eu gwerth a materion llywodraethiant. Mae’n gwasanaethu ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys cyrff cyhoeddus, cwmnïau preifat, a sefydliadau chwaraeon.

Wrth gynnal traddodiad cyfreithiol y teulu, mae’n falch o hyrwyddo’r Gymraeg, ac yn ei hintegreiddio’n ddi-dor i’w ymarfer cyfreithiol. Mae hyn wedi ennill iddo rôl Hyrwyddwr y Gymraeg yn Blake Morgan.

Mae ei arbenigedd a’i arddull hawdd wedi ei wneud yn bartner cyfreithiol o ddewis ar gyfer cleientiaid fel Comisiynydd y Gymraeg, y GIG yng Nghymru a Lloegr, a llywodraeth ganolog yng Nhgymru ac yn Lloegr. Mae ei enw da am ddelio â chymhlethdod a chynnig cyngor cyfreithiol hygyrch yn golygu ei fod yn cael effaith ar y ddwy ochr i Glawdd Offa.

Roedd ei sgiliau o ran rheoli sefyllfaoedd cymhleth yn hanfodol yn ystod ei rôl ganolog o gynghori GIG Lloegr ar gyflwyno brechlyn COVID-19.

Eisteddom â Tomos i drafod ei yrfa, ei fewnwelediad ar gynnal cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, a dylanwad ei dreftadaeth ar ei fywyd proffesiynol.

Beth wnaeth dy ddenu i ddilyn gyrfa yn y gyfraith, a sut mae dy gefndir Cymreig wedi dylanwadu ar dy lwybr proffesiynol?

Mae fy nhreftadaeth Gymreig yn cydblethu’n ddwfn â’m hunaniaeth broffesiynol. Mae’n fy nghaniatáu i gyfathrebu a chysylltu â chleientiaid yn eu hiaith gyntaf, sydd yn agwedd amhrisiadwy o’m hymarfer cyfreithiol. Yn ystod fy mhlentyndod ym Mangor, wedi trochi yn y Gymraeg a’i diwylliant, cefais fy ysbrydoli’n fawr gan yrfa fy mam fel cyfreithiwr. Er gwaethaf ei chyngor i ddewis llwybr gwahanol, cefais fy sbarduno i ddilyn yn ei hôl troed ar ôl gwylio ei hymroddiad a’i synnwyr o gyflawniad o’i gwaith. ‘Dw i mor ddiolchgar ei bod hi wedi fy ngweld yn dod yn bartner yn Blake Morgan. Hi oedd fy ysbrydoliaeth wreiddiol ar gyfer gyrfa gyfreithiol, felly golygodd gymaint i mi fy mod wedi gallu rhannu’r garreg filltir honno gyda hi. ‘Dw i hefyd yn falch y cafodd yn ngweld i yn  defnyddio’r Gymraeg yn fy ngwaith bob dydd.

Sut wyt ti yn integreiddio dy sgiliau Cymraeg i dy ymarfer cyfreithiol?

Mae’r Gymraeg yn rhan hanfodol o fy mywyd gwaith a practis cyfreithiol. ‘Dw i’n cynghori cleientiaid yn y Gymraeg yn rheolaidd, sy’n cryfhau ymddiriedaeth a chydberthynas. Mae hefyd yn golygu bod cleientiaid yn cael gweithio yn eu dewis iaith, sy’n hanfodol i gyfathrebu. Wedi’r cyfan, mae cyfathrebu yn sail i bopeth a wnawn fel cyfreithwyr!

A allet ti ymhelaethu ar dy rôl yn y broses o gyflwyno brechlyn COVID-19 a’i heriau?

Roedd cynghori GIG Lloegr yn ystod y broses o gyflwyno brechlyn COVID-19 yn her enfawr ac yn uchafbwynt gyrfa. Roedd angen i’r prosiect weithredu ar wib  ac roedd gofyn am dealltwriaeth frwd o’r fantol iechyd cyhoeddus dan sylw. Buom yn gweithio yn ddiflino, yn aml drwy’r nos, i sefydlu’r contractau angenrheidiol a sicrhau cadwyn gyflenwi gadarn ar gyfer cyflenwi brechlynnau ledled y wlad.

Roedd yn gyfnod o bwysau, a bu’n rhaid i ni gydbwyso negodiadau masnachol llym â chenhadaeth iechyd cyhoedd brys. Roeddwn yn ffodus iawn i fod yn rhan o’r tîm a oedd yn cyflwyno’r fframweithiau cyfreithiol i wneud y rhaglen frechu yn bosibl. ‘Dw i’n falch bod ein gwaith ar gyflwyno’r brechlyn wedi’i enwebu ar gyfer gwobr genedlaethol. Braint oedd chwarae rhan fach yn y prosiect hwnnw.

Beth yw’r agwedd sy’n rhoi’r boddhad mwyaf i ti, o ran gweithio ym maes cyfraith fasnachol yn Blake Morgan?

Beth sy’n rhoi’r boddhad mwyaf i mi yw gweld effaith uniongyrchol ein gwaith. O adfywio cymunedau lleol trwy brosiectau ailddatblygu i gyfrannu at ymdrechion iechyd cenedlaethol fel y broses o gyflwyno brechlyn COVID-19, mae gwylio canlyniad fy ngwaith mor foddhaus. Mae gweld effeithiau byd real ein cyngor cyfreithiol yn dod ag agweddau mwy haniaethol y gyfraith i realiti byw.

Gyda’r cyfrifoldebau partneriaeth yn Blake Morgan, sut wyt ti yn rheoli cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, yn enwedig fel tad newydd?

Mae cydbwyso gyrfa heriol gyda bywyd teuluol yn her barhaus. Ers dod yn dad, ‘dw i wedi dod yn fwy ymwybodol o’r angen i fod yn bresennol gartref. Mae Blake Morgan yn cefnogi hyn gyda pholisïau sy’n meithrin cydbwysedd rhwng bywyd cartref a gwaith, gan fy nghaniatáu i dreulio amser gwerthfawr gyda fy merch Beti a chymryd rhan weithredol yn ei blynyddoedd cynnar. Roedd y cymorth hwn yn amhrisiadwy, yn enwedig pan gymerais absenoldeb tadolaeth estynedig.  O ganlyniad, cefais dreulio cyfnodau hir gyda hi ar wahanol gamau yn ei datblygiad cynnar, a ‘dw i’n caru’r amseroedd hynny. Mae llawer o gwmnïau’n sôn ddigon am gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ond dydyn nhw ddim yn gweithredu ar ei sail. Mae’r ffaith i mi dreulio’r amser hwnnw gyda Beti ar gyflog llawn yn dyst i agwedd blaengar y cwmni ar gyfranogiad rhieni.

Fel mentor ac arweinydd yn Blake Morgan, sut wyt ti yn mynd ati i ddylanwadu ar y genhedlaeth nesaf o dalent gyfreithiol?

Mae mentora yn hynod werthfawr oherwydd mae’n fy nghaniatáu i gefnogi twf y genhedlaeth nesaf o gyfreithwyr. Roeddwn yn ffodus i gael mentor cefnogol pan oeddwn o dan hyfforddiant ac mi oedd hynny yn amhrisiadwy. ‘Dw i’n ymdrechu i dalu hynny ymlaen drwy greu amgylchedd lle gall ein hyfforddeion ffynnu a chyfrannu yn ystyrlon at nodau’r cwmni a’n gwaith ymgysylltu cymunedol. Fy nod yw eu hysbrydoli i fod yn gyfreithwyr gwych ac yn bobl gron sydd â meddwl mawr o’u gwaith a’i effaith ar gymdeithas.